Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 19
Mehefin 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(45 munud)
Dogfen Ategol
Cynllun Gweithredu Strategol ar Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig
(45 munud)
Dogfen Ategol
Cenedl Noddfa – Cynllun ffoaduriaid a cheiswyr lloches
(45 munud)
(0 munud)
(15 munud)
NDM6742 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Microbelenni) (Cymru) 2018 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mai 2018.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
(15 munud)
NDM6746 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru).
Dogfen Ategol
(60 munud)
NDM6741 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi y bydd dwy flynedd wedi pasio ers y Refferendwm ar yr UE ar 23 Mehefin 2018.
2. Yn ailddatgan ei gefnogaeth i’r ymagwedd at y trefniadau pontio wrth ymadael â’r UE sydd yn y Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ym mis Ionawr 2017, ac yn credu mai dyma’r ffordd orau o hyd i sicrhau canlyniad boddhaol i’r negodiadau ar Brexit.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod Llywodraeth y DU yn cyflawni ar y penderfyniad a wnaed yn refferendwm yr UE i adael yr UE ac na ddylid tanseilio ei safbwynt mewn trafodaethau gyda'r UE.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod mai ewyllys pendant y bobl yw bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Yn galw ar wleidyddion y Deyrnas Unedig sydd yn erbyn gadael yr UE i barchu dymuniadau pleidleiswyr Cymru a Phrydain a rhoi'r gorau i geisio tanseilio proses Brexit.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau'r fargen orau i Gymru a'r DU, y tu allan i'r UE, y farchnad sengl a'r undeb tollau.
Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i roi cydsyniad i Lywodraeth y DU i gyfyngu ar gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, er ei bod wedi dweud yn glir yn 'Diogelu dyfodol Cymru' y byddai "unrhyw ymgais o’r fath yn cael ei gwrthwynebu’n gadarn" ganddi.
Gwelliant 4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod mwyafrif o Aelodau Seneddol Llafur wedi ymatal mewn pleidlais ar barhau i gymryd rhan yn y farchnad sengl drwy aelodaeth o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, yn groes i 'Diogelu dyfodol Cymru' sy'n dweud, "Nid oes modd i ni gefnogi cytundeb i ymadael â’r UE a fyddai’n golygu nad yw’r DU yn parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl".
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 20 Mehefin 2018